Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

CELG(4)-20-14 Papur2

 

Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

 

Papur Tystiolaeth – 25 Mehefin 2014

 

Cyflwyniad

 

1.    Mae fy mhortffolio’n cynnwys ystod eang o gyfrifoldebau polisi, ac rwy’n gyfrifol am amrywiaeth o raglenni cyflawni hefyd. Gan weithio gyda rhanddeiliaid allweddol ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat a’r Trydydd Sector, mae’r portffolio’n ariannu ac yn goruchwylio’r gwasanaethau a dargedir ar gyfer unigolion a chymunedau ledled Cymru.

 

2.    Fel y nodais yn y Rhaglen Lywodraethu, ffocws fy ngwaith yw cefnogi’r broses o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus effeithiol ac effeithlon sy’n diwallu anghenion pobl yng Nghymru. Mae fy mholisïau a’m rhaglenni’n seiliedig ar y nod hwn a’r ymrwymiadau sylfaenol a nodwyd yn y Rhaglen Lywodraethu. Mae cynnydd da yn cael ei wneud, gyda 19 o’r 46 argymhelliad sy’n gyfrifoldeb i’r portffolio eisoes wedi’u cyflawni, yn cynnwys addewid ‘Pump am Ddyfodol Tecach’ i ariannu 500 o Swyddogion Cymorth Cymunedol.

 

3.    Mae rhan fwyaf o gyllid fy mhortffolio yn cael ei gyfeirio at wasanaethau cyhoeddus drwy Awdurdodau Lleol. Mae’r portffolio hwn yn darparu’r rhan fwyaf o gyllid gan Lywodraeth Cymru i Awdurdodau Lleol drwy Setliad Llywodraeth Cymru. Dyma’r cyllid heb ei neilltuo sy’n adlewyrchu sefyllfa Awdurdodau Lleol fel haen Llywodraeth annibynnol a etholir yn ddemocrataidd. Fodd bynnag, rwy’n gweithio mewn partneriaeth ag Awdurdodau Lleol ledled Cymru i sicrhau bod ganddynt y capasiti corfforaethol a’r gallu sydd eu hangen i reoli darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus yn effeithiol gan ddarparu gwerth am arian.   

 

4.    Mae Gweinidogion eraill yn gweithio’n uniongyrchol ag Awdurdodau Lleol mewn modd tebyg i ddatblygu eu hagendâu polisi a gweithredu eu rhaglenni hwythau.

 

Cyllid

 

 

2013-14

(Cyllideb Atodol)

£000

2014-15

(Cyllideb Derfynol)

£000

 

 

 

Refeniw

4,705,164

4,568,893

Cyfalaf

22,920

22,920

 

 

 

CYFANSWM DEL

4,728,084

4,591,813

 

 

 

 

5.    Mae’r gyllideb ar gyfer portffolio Llywodraeth Leol 2014-15 yn cynnwys:

 

·         £ 4,271m o gyllid heb ei neilltuo drwy’r Grant Cymorth Refeniw;

·         £ 140m ar gyfer Cyllid Refeniw Cyffredinol yr Heddlu;

·         £ 35m ar gyfer y Gronfa Gofal Canolraddol;

·         £ 3.4m i gefnogi Gweddnewid a Diwygio;

·         £ £36m ar gyfer Gwella Llywodraeth Leol a Meithrin Democratiaeth Leol;

·         £ 16.8m ar gyfer Swyddogion Cymorth Cymunedol;

·         £ 4m o gyllid refeniw a £0.3m o gyllid cyfalaf ar gyfer trais yn erbyn menywod a cham-drin domestig ac ar gyfer polisïau atal caethwasiaeth a masnachu pobl;

·         £ 7.2m o refeniw a £2.3m o gyllid cyfalaf ar gyfer Gwasanaethau Tân ac Achub a Diogelwch Tân Cymunedol yng Nghymru;

·         £ 5.2m ar gyfer ein polisïau ar atal troseddau ieuenctid.

 

Blaenoriaethau i Gymru

 

6.    Mae pob rhaglen a pholisi sy’n cael eu datblygu drwy’r portffolio hwn yn cefnogi blaenoriaethau Llywodraeth Cymru a nodwyd yn y Rhaglen Lywodraethu:

 

Cyllid Awdurdodau Lleol

 

7.    Mae tua 160,000 o bobl yn gweithio’n uniongyrchol i awdurdodau lleol. Mae tua thri chwarter gwariant llywodraeth leol yn mynd ar gyflogau a chostau cyflogaeth. Caiff llawer o’r gwariant hwn ei ail-fuddsoddi mewn cymunedau a busnesau lleol. Rwy’n gweithio gydag Awdurdodau Lleol i hyrwyddo’r defnydd o Gyflog Byw, ac i leihau’r defnydd o gontractau dim oriau. Mae’r gwaith yn cael ei ddatblygu gan Gyngor Partneriaeth y Gweithlu, sy’n cynnwys cyflogwyr y sector preifat ac Undebau Llafur cydnabyddedig. Yn ddiweddar hefyd, rwyf wedi cyhoeddi Cod Ymarfer diwygiedig ar Faterion y Gweithlu, a elwir yn god dwy haen hefyd.

 

8.    Mae gweithwyr awdurdodau lleol yn cyflawni ystod eang o gyfrifoldebau, wedi’u hariannu drwy gymysgedd o gyllid heb ei neilltuo, grantiau penodol, trethi lleol ac incwm arall. Mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £4.4 biliwn drwy Setliad Llywodraeth Leol ar gyfer 2014-15. Mae’r cyllid hwn yn cynnwys £4.264 biliwn o refeniw heb ei neilltuo a £143 miliwn o Gyllid Cyfalaf Cyffredinol. Yn ogystal â hyn, mae awdurdodau lleol yn derbyn dros £700 miliwn o grantiau penodol Llywodraeth Cymru drwy bortffolios Gweinidogion unigol.

 

9.    Ar ôl iddo gael ei ddyrannu drwy Setliad Llywodraeth Leol, mae’r cyllid yn fater i’r awdurdodau lleol unigol. Mae penderfynu ar sut i ddefnyddio’r holl gyllid sydd ar gael i awdurdod yn un o dasgau a chyfrifoldebau allweddol Cynghorwyr lleol. Mae’n rhaid iddynt sicrhau bod safbwyntiau eu hetholwyr yn cael eu hadlewyrchu a’u cydbwyso gyda’r anghenion a’r pwysau ar wasanaethau lleol. Mae rhoi’r rhyddid i awdurdodau bennu eu cyllidebau eu hunain yn rhan bwysig o broses y Setliad, gan roi hyblygrwydd iddynt ymateb i bwysau a gofynion lleol.

10. Rwyf am sicrhau mwy o hyblygrwydd lle bo’n bosibl, drwy symud cyllid o grantiau penodol, sydd â baich gweinyddol cysylltiedig, i Setliad Llywodraeth Leol ac annog symudiad i gyfuno grantiau. Gall dadneilltuo cyllid grant sicrhau effaith gadarnhaol ar ddarparu grantiau gan ei fod yn rhyddhau cyllid a arferai gael ei wario ar weinyddu’r grant.

 

11. Mae gan Lywodraeth Cymru record dda ar ddadneilltuo. Dim ond tua 15% o’r cyllid refeniw a ddarparwyd i lywodraeth leol gan Lywodraeth Cymru sydd at ddibenion penodol. Yn ystod tymor y Cynulliad, mae £180m o gyllid a ddarparwyd fel grantiau penodol o’r blaen wedi’i ryddhau i’r Grant Cymorth Refeniw. Ar sail amcangyfrifon Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer cost gweinyddu grantiau, mae hyn yn awgrymu bod rhwng £9m a £18m a arferai fod yn orbenion rheoli bellach ar gael i’w gwario ar wasanaethau cyhoeddus bob blwyddyn. Rydym hefyd wedi darparu dros £230m y flwyddyn i gyflawni cyfrifoldebau newydd fel cyllid heb ei neilltuo yn hytrach na chreu grantiau penodol newydd. Unwaith eto, mae hyn wedi osgoi cymaint ag £20 miliwn o gostau gweinyddu diangen bob blwyddyn.  

 

12. Mae hon yn broses barhaus ac mae’n bwysig ein bod ni’n ystyried pob llwybr i sicrhau mwy o hyblygrwydd i lywodraeth leol. Rwyf wedi pwyso ar lywodraeth leol, mae’n rhaid i’r sector allu rhoi sicrwydd i Weinidogion Cymru y bydd yn gallu cyflawni blaenoriaethau a gwella gwasanaethau pe bai’n cael mwy o hyblygrwydd.

 

13. Mae’n debyg y bydd yr heriau cyllido cyfredol yn para ymhell i’r dyfodol. Yn y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi cymryd camau i ddiogelu llywodraeth leol rhag y toriadau gwaethaf a helpu’r sector i baratoi ar gyfer adegau mwy anodd. Fodd bynnag, yn sgil y pwysau parhaus ar wasanaethau a chyllidebau, mae’n rhaid i ni barhau i chwilio am ddulliau mwy gweddnewidiol o ddarparu gwasanaethau.

 

Pennu cyllideb ac ymgysylltu â’r cyhoedd

 

14. Yn ddiweddar, cynhaliais ymarfer i gasglu gwybodaeth gan Awdurdodau am eu dulliau ymgysylltu â’r cyhoedd, ymgynghori a chraffu lleol yn ystod y broses o bennu cyllideb ar gyfer 2014-15. Rwyf wedi ystyried y wybodaeth hon yn ofalus, gyda golwg ar amlygu arferion da gyda llywodraeth leol drwy Gyngor Partneriaeth Cymru a’i is-grwpiau. Rwyf hefyd yn bwriadu ysgrifennu at Weinidogion eraill yn crynhoi fy nghanfyddiadau.

 

15. Rwyf wedi datgan yn glir wrth Arweinwyr Cynghorau bod y pwysau ar gyllidebau’n golygu ei bod hi’n bwysicach nag erioed i gynnwys trigolion mewn penderfyniadau ar sut y caiff adnoddau lleol eu blaenoriaethu a’u gwario ac, yn arbennig, mewn penderfyniadau anodd am doriadau. Yn anad dim, gall ymgysylltu effeithiol arwain at atebion arloesol ar gyfer ymdrin â chyfyngiadau cyllidebol a gwella democratiaeth leol.

 

16. Mae’r wybodaeth a ddaeth i’r fei yn sgil fy ymarfer yn cyflwyno darlun cymysg ledled Cymru, gyda rhai enghreifftiau da iawn o ymgysylltu effeithiol â thrigolion, gweithwyr, partneriaid darparu a’r Trydydd Sector. Fodd bynnag, rwy’n argyhoeddedig na ddylai ymgysylltu â’r cyhoedd fod yn ymarfer ‘ticio bocsys’. Ceir tystiolaeth o ganlyniadau ymgynghoriad yn cael eu hasesu a’u defnyddio’n briodol i lywio penderfyniadau mewnol, drwy gyfarfodydd Cabinet, gweithdai a Phwyllgorau Craffu. Roedd rhai awdurdodau yn cyhoeddi dadansoddiad cynhwysfawr o ganlyniadau ymgynghoriadau i ymatebwyr eu gweld.

 

17. Er nad wyf yn tanbrisio tasg Awdurdodau o bennu cyllideb, mae yna lawer o ddulliau o gynnwys cymunedau mewn ystyriaethau cyllidebol. Mae’n amlwg y gallai rhai Awdurdodau wneud mwy i ymgysylltu â’u cymunedau. Rwy’n cydnabod rôl democratiaeth leol wrth gyflawni dyletswyddau allanol fel pennu cyllideb, ond mae’n bwysig cynnwys cymunedau yn y broses a gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu cynnwys, a dylai trafodaethau dwyffordd fod yn ail natur.

 

18. Gan na fydd y cyfyngiadau ariannol yn gwella yn y dyfodol agos, mae angen i Awdurdodau ddechrau meddwl yn awr sut i fynd at i sicrhau bod penderfyniadau terfynol yn gadarn ac yn seiliedig ar wybodaeth gynhwysfawr, pryd i wneud hynny ac â phwy y dylid ymgynghori â nhw. 

 

Cronfa Cydweithredu Rhanbarthol

 

19. Rwy’n cyflwyno cynlluniau i asesu gwelliannau a chanlyniadau o’r Gronfa Gydweithredu Rhanbarthol ar ffurf model tebyg i’r un a fabwysiadwyd ar gyfer prosiect Bwrdd Gwasanaeth Lleol Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF-LSB).

 

20. Bydd gwerthusiad annibynnol cyffredinol yn cael ei gynnal o’r Gronfa Cydweithredu Rhanbarthol a fydd yn archwilio ei ganlyniadau ac yn nodi gwersi ac ystyriaethau ar gyfer polisi ac arferion y dyfodol ar sail cydweithredu. Mae’r gwerthusiad hwn yn cael ei gomisiynu ar hyn o bryd a dylid dyfarnu contract yn y ddau fis nesaf.

 

Trethi Lleol – Ardrethi Annomestig

 

21. Ardrethi annomestig yw’r dull o godi refeniw ar gyfer gwasanaethau awdurdodau lleol gan berchnogion a deiliaid eiddo annomestig. Er eu bod yn cael eu galw’n ardrethi busnes yn aml, maent yn berthnasol i bob math o eiddo annomestig nid busnesau’n unig. Mae hyn yn cynnwys elusennau, sefydliadau dielw ac eiddo’r sector cyhoeddus. Mae yna gategorïau esempt a nifer o gynlluniau rhyddhad.

 

22. Caiff biliau ardrethi annomestig eu cyfrif trwy ddefnyddio dau newidyn:

 

·         Gwerth Ardrethol eiddo, a bennir gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio;

·         Lluosydd Ardrethi Annomestig sy’n cael ei bennu bob blwyddyn gan Lywodraeth Cymru ac sydd yr un fath i bob eiddo. 

 

23. Ar gyfer 2014-15, mae Llywodraeth Cymru wedi capio cynnydd y Lluosydd ar 2%.

 

24. Yn dilyn argymhelliad adroddiad cyntaf y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru, mae gwaith ar droed i ddatganoli ardrethi annomestig yn llawn i Gymru fel rhan o’r Rhaglen Ddiwygio Ariannol. Mae’r Gronfa Ardrethi Annomestig yn cynhyrchu tua £1 biliwn i ariannu gwasanaethau llywodraeth leol yng Nghymru. Mae hwn yn gam mawr ymlaen i ddarparu’r adnoddau sydd eu hangen ar Gymru i ddatblygu datganoli ymhellach.   

 

25. Mae’r Cynllun Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach wedi bod yn weithredol ers nifer o flynyddoedd ac wedi’i ymestyn i barhau gydol 2014-15. Rydym hefyd yn gweithredu nifer o gynlluniau rhyddhad eraill i helpu busnesau ledled Cymru fel y Cynllun Rhyddhad Manwerthu.

 

 

Trethi Lleol – y Dreth Gyngor

 

26. Dull o godi refeniw ar gyfer gwasanaethau llywodraeth leol gan eiddo domestig yw’r Dreth Gyngor.

 

27. Cynyddodd y Dreth Gyngor yng Nghymru 4.1% yn 2014-15, o gymharu â chynnydd o 3.2% yn 2013-14.  Mae hyn yn cynnwys praeseptau yr Heddlu a Chynghorau Cymuned. Er y cynnydd hwn, mae bil Band D ar gyfartaledd yn dal i fod tua  £190 yn is na Lloegr.

 

28. Yn gynnar iawn yn y broses bennu cyllideb bûm yn siarad gydag Arweinwyr Cynghorau a’r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu i ddatgan fy nisgwyliadau yn glir mewn perthynas â’r Dreth Gyngor. Bûm yn gweithio’n agos â’m swyddogion i asesu’r cynnydd ledled Cymru. Mae pennu’r Dreth Gyngor yn un o ddyletswyddau allweddol Awdurdodau Lleol a’r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu. Mae angen iddynt weithredu’n gyfrifol i gynnal gwasanaethau hanfodol gan gyfyngu’r baich ariannol ar drigolion yr un pryd. Maent yn uniongyrchol atebol i’w hetholwyr lleol ac rwyf wedi rhoi rhyddid iddynt wneud penderfyniadau da.

 

29. Mae pob Awdurdod Lleol wedi wynebu cyfyngiadau ariannol yn 2014-15 ac wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd gydol y broses o bennu cyllideb. Cynyddu’r Dreth Gyngor yw un o’r dewisiadau amrywiol sydd ar gael i Awdurdodau ar gyfer pennu cyllideb gytbwys. Mae Llywodraeth Cymru yn cyfeirio cymaint â phosibl o’r cyllid sydd ar gael i’r setliad cyllid craidd. Nid ydym yn gosod cyfyngiadau un ateb sy’n addas i bawb nac yn gofyn am refferenda lleol costus i gyfiawnhau cynnydd yn y Dreth Gyngor. Mae tystiolaeth yn dangos bod mwy o Awdurdodau yn Lloegr yn gwrthod cynnig Llywodraeth y DU o grant rhewi’r Dreth Gyngor bob blwyddyn ac yn dewis y gallu i bennu eu treth gyngor eu hunain yn lle hynny, ac mae lefelau’r Dreth Gyngor yn Lloegr yn parhau i godi flwyddyn ar ôl blwyddyn.

 

30. Mae’r Bil Tai yn cynnwys darpariaeth ar gyfer y Dreth Gyngor a fydd yn rhoi pwerau dewisol i Awdurdodau Lleol godi hyd at, ond nid mwy na, 100% yn ychwanegol o  dâl safonol y Dreth Gyngor (hy premiwm 100%) ar:

 

·         Eiddo sydd wedi bod yn wag (heb ei feddiannu a heb fawr o ddodrefn) am o leiaf flwyddyn:

·         Ail gartrefi (cartrefi nad ydynt yn unig gartref neu’n brif gartref i unigolyn ac sydd heb fawr o ddodrefn).

 

31. Bwriad y darpariaethau hyn yw rhoi adnoddau ychwanegol i Awdurdodau Lleol fel y gallant fynd i’r afael â’r pwysau tai yn lleol a gwrthsefyll effeithiau ffactorau sy’n effeithio ar gyflenwad tai yn lleol. Bydd Awdurdodau Lleol sy’n defnyddio tâl y Dreth Gyngor ychwanegol ar eiddo gwag a/neu ail gartrefi’n cael eu hannog i ddefnyddio unrhyw refeniw ychwanegol a godir i wella a chynyddu’r cyflenwad tai a’r gwasanaethau sydd ar gael yn lleol.

 

32. Os yw’r Bil yn cael Cydsyniad Brenhinol byddaf yn ymgynghori ar esemptiadau posibl i daliadau’r Dreth Gyngor ychwanegol hyn. Bydd hyn yn llywio Rheoliadau y byddaf yn eu cyflwyno i ragnodi categorïau o anheddau na ellir codi Treth Gyngor ychwanegol arnynt. Gall y categorïau hyn ymwneud â nodweddion yr adeilad neu amgylchiadau’r unigolyn fyddai’n gorfod talu’r dreth. Byddaf yn cyhoeddi canllawiau hefyd sy’n rhaid i Awdurdodau Lleol eu hystyried wrth godi tâl Treth Gyngor ychwanegol. Mae hyn yn debygol o gynnwys gofynion adrodd gwybodaeth.

 

Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor

 

33. Yn dilyn penderfyniad Llywodraeth y DU i ddiddymu Budd-dal y Dreth Gyngor, cyflwynodd Llywodraeth Cymru Gynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor ar gyfer 2013-14 a oedd yn cynnal hawliadau i aelwydydd cymwys. Cefnogwyd hyn gan £22 miliwn ychwanegol i ategu’r £222 miliwn a drosglwyddwyd gan Lywodraeth y DU, gan roi cyfanswm o £244 miliwn. Mae’r dull hwn yn parhau yn 2014-15, ac mae angen i lywodraeth leol ystyried goblygiadau ariannol unrhyw ddiffyg ychwanegol sy’n codi o benderfyniadau lleol ar lefelau’r Dreth Gyngor. O ganlyniad, darparwyd cymorth i bron 320,000 o aelwydydd i allu talu’r Dreth Gyngor, a bydd 70% o’r rhain yn parhau i beidio gorfod talu unrhyw Dreth Gyngor o gwbl.

 

34. Fodd bynnag, o ystyried y cynnydd a ragwelir yng nghost cynnal yr amddiffyniad hwn, ym mis Mehefin 2013 cytunodd Gweinidogion i gynnal adolygiad i ddatblygu opsiynau a gwneud argymhellion ar gyfer cynllun teg a chynaliadwy, sy’n darparu cymaint o amddiffyniad â phosibl i aelwydydd incwm isel. Mae trosolwg manwl o’r adolygiad yn yr Atodiad i’r papur hwn.

 

35. Yn ddiweddar, cyhoeddais Ddatganiad Ysgrifenedig yn cadarnhau bod Gweinidogion Cymru wedi penderfynu y dylid parhau i gynnal hawliadau i Gynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor am ddwy flynedd arall yn dilyn yr adolygiad.

 

Perfformiad a Chraffu Awdurdodau Lleol

 

36. Wrth bennu cyllidebau, mae Awdurdodau Lleol yng Nghymru yn y gorffennol wedi bod yn cyflawni yn erbyn Cytundebau Canlyniadau. Dros oes y Cytundebau Canlyniadau llwyddodd pob Awdurdod Lleol i wella eu dull o gyflawni canlyniadau a nodwyd. Datblygwyd dull newydd ar gyfer y cylch nesaf sy’n cysylltu’r canlyniadau ag ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu. Cyflwynodd pob Awdurdod Lleol yng Nghymru eu Cytundebau Canlyniadau Olynol erbyn 31 Mai a bydd asesiadau o berfformiad yn erbyn canlyniadau’n cael eu cynnal.

 

37. Yn ogystal â hybu perfformiad Awdurdodau Lleol rwyf hefyd yn gweithio i wella gwaith craffu Awdurdodau Lleol ar lefel leol a chenedlaethol. Mae craffu effeithiol yn gysylltiedig â phenderfyniadau cyllideb o safon. Darparwyd mwy o gymorth i Gynghorwyr Awdurdodau Lleol i’w helpu i gyflawni eu gwaith fel rhan o’r broses o weithredu Mesur Llywodraeth Leol 2011.  

 

38. Y Rhaglen Datblygu Gwaith Craffu yw’r ffocws ar gyfer cryfhau trefniadau craffu mewn llywodraeth leol. Dechreuodd cam cyntaf y rhaglen ym mis Medi 2012 ac fe ddaw i ben ym mis Mawrth 2015. Bydd tystiolaeth o’r gwaith hwn, astudiaeth Swyddfa Archwilio Cymru ar graffu lleol, Adroddiad y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus a gwerthusiadau system y cabinet a Mesur Llywodraeth Leol 2011, yn llywio cam nesaf y gwaith hwn.

 

39. Mae’r Ganolfan Craffu Cyhoeddus, sy’n derbyn adnoddau gan Lywodraeth Cymru, yn darparu rhaglen waith bwrpasol i gefnogi gwaith craffu yng Nghymru. Mewn cyfnod byr o amser mae wedi sefydlu’i hun fel llygad y ffynnon ar gyfer pob math o gymorth craffu, ac wedi bod yn allweddol yn y gwaith o ddatblygu Nodweddion Craffu Effeithiol, ac o ran cefnogi rhaglen hyfforddiant ag achrediad academaidd ar gyfer swyddogion craffu ledled Cymru.

 

40. Ar 26 Mehefin byddaf yn siarad mewn digwyddiad i lansio canllaw ar graffu cyllideb yn effeithiol, a ddatblygwyd gan y Ganolfan Graffu Gyhoeddus a Grant Thornton. Bydd y canllaw hwn yn cynnig cyngor ymarferol i Awdurdodau Lleol ar y ffordd orau o gynnwys defnyddwyr gwasanaethau mewn penderfyniadau cyllideb anodd.               

 

Democratiaeth

 

41. Mae Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) Cymru 2013 yn cael ei rhoi ar waith a’r nod yw gorffen y broses yng ngwanwyn 2015 pan fydd darpariaethau terfynol Gwefannau y Cynghorau Cymuned a Thref yn cael eu gweithredu. Mae hyn yn rhoi digon o amser paratoi i’r Cynghorau hyn. Rwy’n ymgynghori ar ganllawiau yn y maes hwn ar hyn o bryd:

 

(http://wales.gov.uk/consultations/localgovernment/access-to-information-town-councils/?skip=1&lang=cy)

 

42. Rwyf hefyd yn gweithio tuag at weithredu darpariaethau’r Ddeddf mewn perthynas â chyhoeddi cofrestri buddiannau aelodau yn electronig ar gyfer pob Awdurdod Lleol sydd wedi’u cynnwys yn y Ddeddf.

 

43. O ran Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, cyhoeddwyd cyfran gyntaf yr adroddiadau blynyddol a baratowyd gan Gynghorwyr i’w hetholwyr ym mis Medi 2013, yn dilyn Etholiadau Llywodraeth Leol ym mis Mai 2012. Rwyf wedi cyhoeddi y bydd y gyfres nesaf o etholiadau Llywodraeth Leol yn cael eu cynnal ym mis Medi 2017 ar gyfer y Prif Gynghorau a’r Cynghorau Cymuned a Thref.

 

44. Hydref diwethaf, sefydlais Grŵp Arbenigol ar Amrywiaeth Llywodraeth Leol, dan gadeiryddiaeth yr Athro Laura McAllister. Yr aelodau oedd Joy Kent, Dr Declan Hall a Naomi Alleyne. Sefydlwyd y Grŵp i adolygu canlyniadau arolwg Ymgeiswyr Etholiadau Llywodraeth Leol 2012.

 

45. Argymhellion allweddol o adroddiad y Grŵp Arbenigol, “Ar ôl pwyso a mesur: Sicrhau Democratiaeth Amrywiol mewn Llywodraeth Leol” yw:

 

·         Gwella arolygon y dyfodol drwy wahanu’r data ar gyfer Cynghorau Sir a Chymuned;

·         Dylai pleidiau gwleidyddol ddefnyddio cynlluniau mentora ar gyfer darpar ymgeiswyr posibl;

·         Dylai Llywodraeth Cymru gydlynu ymgyrch, ar y cyd â rhanddeiliaid, cyn yr etholiadau lleol i ddarparu gwybodaeth am Lywodraeth Leol a sut i ddod yn Gynghorydd;

·         Dylai Llywodraeth Cymru gydweithio â CLlLC i sefydlu cynllun cysgodi/mentora. 

46. Yn ogystal, rwy’n sefydlu rhwydwaith o hyrwyddwyr amrywiaeth. Ysgrifennais at bob Awdurdod Lleol i’w hannog i enwebu cynrychiolydd i fod yn hyrwyddwr amrywiaeth. Hyd yn hyn, mae 17 Awdurdod Lleol wedi enwebu Cynghorwyr i fod yn hyrwyddwyr amrywiaeth. 

47. Rôl yr hyrwyddwyr lleol fydd:

 

·         cymryd rhan yn ymgyrchoedd y cyfryngau – cyfweliadau / erthyglau newyddion ar beth wnaeth eu hysgogi i fod yn Gynghorwyr; yr anawsterau a gawsant; pa welliannau fyddai’n gwneud y swydd yn haws;

·         defnyddio eu profiad fel Cynghorwyr i hyrwyddo’r rôl;

·         defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol – rhoi negeseuon ar twitter i hyrwyddo diddordeb yn yr adroddiad a’r drafodaeth lawn a thu hwnt;

·         sicrhau bod Awdurdodau Lleol yn hyrwyddo argymhellion y Grŵp Arbenigol mewn perthynas â Llywodraeth Leol – pob Cynghorydd i ymweld ag Ysgolion Uwchradd; Awdurdodau Lleol i gael mentoriaid a hyrwyddwyr aelodau; ymgysylltu â grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol;

·         bod yn gyfrwng i sicrhau democratiaeth amrywiol mewn Llywodraeth Leol yn yr etholiadau nesaf;

·         trwy ddefnyddio pethau fel cyfryngau cymdeithasol, gallai’r grŵp greu diddordeb yn yr adroddiad cyn iddo gael ei lansio, cyn y drafodaeth lawn ar 18 Mawrth a thu hwnt.

48. Mae Grŵp Llywio, yn cynnwys cynrychiolwyr y pleidiau gwleidyddol, nawr yn bwrw ymlaen â’r Cynllun Gweithredu a gyhoeddais mewn ymateb i’r Adroddiad.

 

Byrddau Gwasanaeth Lleol a Chynlluniau Integredig Sengl

 

49. Mae gan bob Bwrdd Gwasanaeth Lleol gynlluniau integredig sengl erbyn hyn ac maent yn gweithio i symleiddio eu strwythurau partneriaeth lleol. Bydd Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), a fydd yn cael ei gyflwyno i’r Cynulliad Cenedlaethol fis nesaf, yn rhoi Byrddau Gwasanaeth Lleol a Chynlluniau Integredig Sengl ar un sail statudol ac yn cysoni cynlluniau strategol lleol a chenedlaethol yn well drwy’r Targedau Cenedlaethol a nodir yn y Bil.

 

50. Hyd nes y bydd y Bil hwn yn cael ei weithredu, mae cynlluniau integredig sengl yn seiliedig ar ddarpariaethau cynllunio cymunedol a gyflwynwyd ym Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009. Er mwyn sicrhau bod y trefniadau cyfredol yn parhau, yn dilyn ymgynghoriad, byddaf yn cyflwyno Gorchymyn i gynnwys y Comisiynwyr Heddlu a Throseddu fel partneriaid cynllunio cymunedol.

 

Diogelwch Cymunedol

 

51. Mae’r Rhaglen Lywodraethu’n nodi ein hymrwymiad i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru. Y mis hwn, byddaf yn cyflwyno deddfwriaeth i gyflawni’r nod hwn drwy wella ymateb y sector cyhoeddus yng Nghymru i drais a cham-drin o’r fath. Bydd y Bil yn darparu ffocws strategol ar y materion hyn ac yn sicrhau ystyriaeth gyson o ddulliau ataliol, amddiffynnol a chefnogol i ddarparu gwasanaethau.

 

52. Drwy ein menter 10,000 o Fywydau Diogelach, mae dros 7,000 o ddioddefwyr yn ystyried eu bod yn ddiogelach, neu’n teimlo’n ddiogelach, yn 2013-14 o gymharu â 2011-2012; cyflawniad sylweddol yn unol â chyfeiriad ein polisïau a’n strategaethau. Yn ogystal â hyn, mae pob sefydliad darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru bellach wedi gweithredu neu adolygu polisïau eu gweithle ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. 

53. Rwyf hefyd yn gweithio i godi ymwybyddiaeth o’r materion sy’n gysylltiedig ag anffurfio organau cenhedlu benywod. Rydym yn arwain y ffordd yng Nghymru o ran mynd i’r afael â chaethwasiaeth, sy’n parhau i fod yn broblem yn ein cymdeithas fodern. Yn y cyd-destun hwn, rwy’n parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU ar ei Bil Caethwasiaeth Fodern.

 

54. Cymru yw’r wlad gyntaf yn y DU i benodi Cydgysylltydd Atal Caethwasiaeth sy’n gweithio’n agos ag ystod o sefydliadau gwahanol i godi ymwybyddiaeth a chydgysylltu gweithgareddau ar y cyd i fynd i’r afael â chaethwasiaeth. Nid oes unrhyw Weinyddiaeth arall yn y DU wedi cymryd camau o’r fath hyd nawr gyda Llywodraeth y DU yn bwriadu penodi Comisiynydd Atal Caethwasiaeth.

 

55. Rydym wedi cymryd camau breision yma yng Nghymru, gan ddarparu arweiniad strategol i’r cyrff datganoledig a heb eu datganoli sy’n gweithio yma. Mae ein Grŵp Arwain Atal Caethwasiaeth yn darparu trosolwg a chyfeiriad i’r gwaith hwn ac mae ein llwyddiannau sylweddol hyd yn hyn yn cynnwys datblygu Llwybr Gofal Goroeswyr i sicrhau cymorth cyson i oroeswyr ledled Cymru, gan gyflwyno rhaglenni hyfforddiant ymwybyddiaeth cymeradwy yn raddol a sicrhau bod ein Fforymau Atal Caethwasiaeth Rhanbarthol yn cwmpasu Cymru gyfan.

 

56. Ym mis Hydref 2013, cyflawnais yr ymrwymiad i ariannu 500 o Swyddogion Cymorth Cymunedol ychwanegol ledled Cymru. Mae’r swyddogion hyn yn gweithio gydag ysgolion cynradd lleol, yn rhoi sicrwydd i grwpiau dros 60 oed, yn helpu busnesau lleol i fynd i’r afael ag achosion o ddwyn, atafaelu alcohol a thybaco, a chynnal ymholiadau o ddrws i ddrws ar gyfer ymchwiliadau troseddol. Ym mis Mawrth 2013 dyfarnwyd contract i werthuso effaith ein buddsoddiad yn y swyddogion ychwanegol hyn. Bydd y gwaith yn dod i ben ym mis Medi 2014.

 

57. Rwyf wedi darparu £69,000 ar gyfer 2013-14 i gefnogi Parthau Dim Galw Diwahoddiad ychwanegol ledled Cymru. Dylai hyn greu parthau ychwanegol a fydd yn cwmpasu 10,000 o gartrefi, yn ogystal â’r 38,500 o gartrefi sydd eisoes yn cael eu gwarchod gan y parthau hyn.

 

58. Mae Cronfa Atal Troseddau Ieuenctid (a arferai gael ei galw’n Gronfa Cymunedau Diogelach) yn parhau i ddarparu cyllid i gefnogi cynlluniau sydd â’r nod o gyfeirio pobl ifanc i ffwrdd o droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Symudodd y gronfa hon at fodel ôl-troed rhanbarthol o fis Ebrill 2013 ac mae’r dull hwn wedi parhau i 2014-2015.

 

59. Rwy’n parhau i ystyried anghenion Cymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru drwy Grŵp Arbenigol penodol i Gymru. Ym mis Mehefin 2013, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Becyn Cymorth diwygiedig ar gyfer y Grŵp hwn. Roedd hwn yn nodi ac yn cyfeirio at ddarpariaeth gwasanaethau cyhoeddus perthnasol a phenodol i aelodau Cymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru, yn cynnwys eu teuluoedd. Fel partneriaid allweddol yn hyn, mae 22 o Awdurdodau Lleol Cymru wedi llofnodi Cyfamod Cymuned y Lluoedd Arfog. Cynhaliwyd dau ddigwyddiad Hyrwyddwyr Lluoedd Arfog amlsector ers mis Tachwedd 2013, i annog gwaith partneriaeth, a dull cydgysylltiedig o ddiwallu anghenion penodol y gymuned hon.

 

60. Ym mis Ebrill 2012, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Fframwaith Cenedlaethol Tân ac Achub Cymru ar gyfer 2012 ymlaen. Mae hwn yn nodi’r disgwyliadau ar Awdurdodau Tân ac Achub yng Nghymru. Cyhoeddwyd adroddiad cynnydd ar weithredu’r Fframwaith ym mis Gorffennaf 2013. Cynhelir adolygiad i weld a yw’r Fframwaith yn dal yn gyfredol yn ystod 2014-15.

 

61. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu grant i Awdurdodau Tân ac Achub i gefnogi gwaith diogelwch cymunedol, yn cynnwys lleihau tanau bwriadol a darparu Gwiriadau Diogelwch Tân yn y Cartref. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu  £3.447 miliwn i’r tri Awdurdod Tân ac Achub yng Nghymru ar gyfer mentrau diogelwch tân cymunedol yn 2014-15.  Mae gan yr Awdurdodau darged i gynnal 72,000 o wiriadau diogelwch tân yn y cartref yn 2014-15. Y llynedd, cwblhawyd 70,832 o wiriadau targed.

 

62. Mae’r gallu i wrthsefyll argyfwng ac ymateb yn effeithiol iddynt yn dibynnu ar bartneriaid yn gweithio’n effeithiol gyda’i gilydd, yn cynnwys gwasanaethau nad ydynt wedi’u datganoli, fel yr heddlu. Mae Prif Weinidog Cymru’n parhau i gadeirio cyfarfodydd rheolaidd o Fforwm Cymru Gydnerth sy’n dod â phartneriaid at ei gilydd.

 

63. Cydgysylltodd y strwythur cynllunio at argyfwng yng Nghymru ymateb effeithiol i’r tonnau enbyd a’r stormydd a welwyd yn ystod y gaeaf y llynedd yn ogystal â sicrhau diogelwch y cyhoedd yn ystod y cyfnodau o weithredu diwydiannol a gynhaliwyd gan Undeb y Brigadau Tân. Rydym yn gweithio gydag Awdurdodau Lleol a phartneriaid eraill i ranbartholi darpariaeth gwasanaethau cynllunio at argyfwng yng Nghymru er mwyn sefydlu a chefnogi trefniadau cydweithio effeithiol ymhellach. Mae gwaith sylweddol yn cael ei wneud hefyd i gyflwyno trefniadau diogelwch a chydnerthedd ar gyfer Uwchgynhadledd NATO. Bydd y profiad a gawn yn sgil hyn nid yn unig yn gwella ein gallu i gynnal digwyddiadau mawr o’r fath yn y dyfodol, ond bydd hefyd yn cryfhau ein cydnerthedd yn gyffredinol.

 

64. Ar 15 Ebrill 2014 cyhoeddodd y Gweinidog Cyllid bod £3 miliwn o gyllid ‘Buddsoddi i Arbed’ yn cael ei ddarparu i gynorthwyo’r gwaith o ddatblygu Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus newydd, a fydd yn uno a chyd-leoli ystafelloedd rheoli Awdurdodau Tân ac Achub De a Chanolbarth a Gorllewin Cymru gyda Heddlu De Cymru yn eu Pencadlys ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Bydd y ganolfan newydd yn sicrhau cydweithio effeithiol rhwng yr Heddlu a’r Awdurdodau Tân ac Achub a’i nod yw credu cymunedau mwy diogel a sicrhau arbedion drwy:

 

·         gydgysylltu ceisiadau am gymorth brys gan y cyhoedd yn effeithiol

·         gwella gallu a chydnerthedd y Gwasanaeth Tân ac Achub a’r Heddlu

·         gwella darpariaeth gwasanaethau drwy ganolbwyntio ar weithgareddau gwella parhaus

·         datblygu a chyflawni protocolau gorchymyn a rheoli i reoli risg i ymatebwyr golau glas

·         darparu llwyfan i ddatblygu atebion cyfathrebu a data symudol yn y dyfodol i wella gallu gwasanaethau golau glas i ryngweithredu.

 

65.  Bydd y prosiect yn sicrhau bod cymorth brys yn cael ei gydgysylltu’n effeithiol a rhagwelir y bydd yn arwain at £1 filiwn o arbedion effeithlonrwydd blynyddol net o 2016.

 

66. Mae pensiynau diffoddwyr tân wedi’u datganoli i Weinidogion Cymru o dan Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004. Mae Llywodraeth Cymru’n ymrwymedig i drefniadau pensiwn ar y cyd sy’n dilyn dulliau tebyg i’r rhai a fabwysiadwyd mewn mannau eraill yn y DU. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ystyriol o’r angen i sicrhau bod Cynlluniau’r DU yn gydradd â’i gilydd ac mae prif fuddion aelodaeth Cynllun Pensiwn Diffoddwyr Tân 2015, yn seiliedig ar gynigion cynllunio’r cynllun yn Lloegr yn destun ymgynghoriad ar hyn o bryd, a ddaw i ben ar 4 Gorffennaf. Gallai unrhyw newidiadau sylweddol i bolisi pensiwn ddiddymu’r cymorth cyllido Gwariant a Reolir yn Flynyddol a roddir gan Drysorlys EM i Bensiynau Diffoddwyr Tân Cymru. Byddai hyn yn gadael Llywodraeth Cymru yn atebol i dalu am unrhyw gostau ychwanegol yn y dyfodol.

 

67. Mae Undeb y Brigadau Tân wedi datgan gwrthwynebiad cyson i sawl agwedd ar drefniadau'r cynllun pensiynau newydd arfaethedig. Ar 16 Mai 2013, anfonodd yr Undeb Lythyr Anghydfod Masnach yn nodi eu pryderon at bob Gweinidog yn y DU, yn cynnwys Gweinidogion Cymru. Yn anffodus, mae hyn wedi arwain at 14 cyfnod gwahanol o weithredu diwydiannol gan aelodau’r Undeb dros y 13 mis diwethaf. Rwyf wedi cyfarfod â’r Undeb nifer o weithiau ac mae’r holl drafodaethau wedi bod yn gadarnhaol ac adeiladol. Yn ogystal, bûm yn gohebu ac yn cyfarfod â Brandon Lewis AS, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol, yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol i’w annog i barhau i drafod â’r Undeb gyda’r nod o gyrraedd setliad drwy gytundeb y ddwy ochr cyn gynted â phosibl.

 

Diwygio Gwasanaethau Datganoledig

 

68. Cafodd y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus ei gyhoeddi ym mis Ebrill 2013 a chyflwynodd adroddiad i’r Prif Weinidog ym mis Ionawr 2014. Roedd yr adroddiad yn cynnwys 62 o argymhellion yn cwmpasu ystod eang o faterion ar draws pob math o wasanaethau cyhoeddus. Hyd yn hyn, mae llawer o’r ffocws wedi bod ar yr argymhellion ynghylch strwythurau Awdurdodau Lleol. Mae’r rhain wedi’u cyflwyno mewn pedwar o’r argymhellion yn unig, gan ddangos hyd a lled y materion i’w hystyried. 

 

69. Sefydlwyd Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Gweinidog, dan arweinid y Prif Weinidog, i weithredu ein rhaglen ddiwygio gwasanaethau datganoledig, gan dynnu ar ganfyddiadau y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru a’r Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru. Bydd cyflawni’r ymrwymiadau a wnaeth o dan Gompact Simpson gydag Awdurdodau Lleol nawr yn parhau fel rhan o’r rhaglen ehangach o ddiwygio gwasanaethau datganoledig.

 

70. Bydd Llywodraeth Cymru’n gwneud cyfres o gyhoeddiadau am Adroddiad y Comisiwn cyn toriad yr haf. I baratoi ar gyfer hyn, yng Nghynhadledd ddiweddar CLlLC cyhoeddais fy ngweledigaeth ar gyfer Llywodraeth Leol yng Nghymru yn yr 21ain ganrif. Mae’r weledigaeth yn cynnwys pedwar conglfaen:

 

·         Awdurdodau sydd â chysylltiadau cryf ac effeithiol gyda’u cymunedau;

·         Democratiaeth leol sy’n adlewyrchu amrywiaeth ein cymunedau;

·         Awdurdodau sy’n gwella lles pobl a lleoedd;

·         Llywodraethu da.

 

71.  Cyhoeddais hefyd y bydd yr etholiadau Llywodraeth Leol nesaf yn cael eu cynnal ym mis Mai 2017 ar sail ein prif gynghorau cyfredol. Bydd etholiadau Cynghorau Cymuned a Thref hefyd yn cael eu cynnal ar y diwrnod hwn.

 

72. Mae hyn yn golygu y gall arweinwyr gwleidyddol lleol presennol fod yn sicr na fydd unrhyw raglenni uno yn cael eu cyflwyno yn ystod tymor y Cynulliad hwn ac, fel arweinwyr, mae’n rhaid iddynt gynllunio ar gyfer y senario ariannol a amlinellir ym mharagraff 13 fel sail ar gyfer y flwyddyn nesaf a thu hwnt.

 

 

 

 

Lesley Griffiths AC

Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth